Claniau mewn cynnen. Goresgyniad y Llychlynwyr. Môr-ladrad.
Cymerwch gipolwg o dan wyneb arfordir gorllewinol hardd yr Alban ac fe ddewch o hyd i hanes sy’n llawn drama a chynllwyn. A pha well ffordd i ddatgelu’r cyfan na thrwy fynd ar daith ar y Cylchoedd Gaelaidd neu Cearcaill na Gàidhlig? |
Mae’r Cylchoedd Gaelaidd yn gydweithrediad gan grŵp o bartneriaid teithio y mae’r brwdfrydedd a rannant tuag at yr iaith Aeleg a’r diwylliant Gaelaidd wedi arwain at greu chwech o Gylchoedd - neu daith gylchol - yn cynnwys yr ynysoedd o Islay yn y de i Lewis yn y gogledd a thir mawr Gorllewin yr Ucheldiroedd o Kennacraig i Ullapool.
Mae gan bob Cylch ei hanes, ei dirnodau a’i chwedlau ei hun i’w rhannu. Dewiswch eich llwybr a gadewch i ni fynd â chi yn ôl mewn amser i ymchwilio i’r rôl bwysig a chwaraeodd Gaeleg yn y gwaith o lunio gorffennol yr Alban a’i pherthnasedd hyd y dydd heddiw. Bydd digon o gyfle hefyd i brofi’r croeso Gaelaidd enwog ar hyd y ffordd.
Dyluniwyd y wefan hon i roi popeth y mae arnoch ei angen i ddechrau arni: trosolygon cyffredinol ar bob un o’r chwe Cylch Gaelaidd, dolenni i’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio ac, i’ch ysbrydoli ymhellach, teithiau personol nifer o Albanwyr adnabyddus wrth i bob un ohonynt deithio o amgylch un o’r Cylchoedd.
Siwrnai hapus i chi...
|
    |
|