Search site
Gaelic Rings
Gaelic Journeys
History of Gaelic
Gaelic Language
Businesses
Our Partners
Travel
Contact Us

Hanes y Gaeleg

Gwreiddiau Hynafol Gaeleg gan Roy Pedersen

Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd ac mae ei hanes yn dechrau yng Nghanol Ewrop lle mae archaeoleg wedi datgelu beddau tywysogion Celtaidd o gyfnod diweddar yr Oes Efydd, sy’n dyddio’n ôl cyn belled â’r drydedd ganrif ar ddeg CC. Rhwng y nawfed a’r chweched ganrif CC, datblygodd y Celtiaid fath newydd o bŵer yn seiliedig ar ymladdwyr ar gefn ceffyl wedi eu harfogi gyda chleddyfau haearn hir. Ymosodasant yn ffyrnig ar Ewrop. Am y rhan orau o fileniwm roedd y Celtiaid hyn yn tra-arglwyddiaethu ar gymanwlad eang oedd yn ymestyn ar draws Ewrop na chafodd ei phwysigrwydd a’i lle yn natblygiad diwylliannol, ieithyddol ac artistig Ewrop ei sylweddoli tan yn ddiweddar. Mae darganfyddiad gweddillion dau deithiwr a fu farw ryw 3,000 o flynyddoedd yn ôl mewn storm dywod yn Niffeithwch Talkamakan yn Tsieina yn gymorth i ddeall cyrhaeddiad daearyddol eithriadol y Celtiaid.  Roedd gan y ddau yma wallt coch, nodweddion Cawcwsaidd ac roeddent yn gwisgo brethyn siec nad oedd yn wahanol iawn i dartan modern. Mae’r Albanwyr yn mynd i bobman!

Roedd yr hen dafodieithoedd Celtaidd yn hynafiad agos i’r Gymraeg a’r Aeleg fodern. Roedd y Celtiaid yn mwynhau bywyd. Roedd lletygarwch yn arwydd o bendefigaeth, traddodiad sy’n parhau yn Ucheldiroedd yr Alban hyd heddiw. Roedd diwylliant Celtaidd yn cael ei drosglwyddo ar lafar: nid oedd hanes a thraddodiadau yn cael eu hysgrifennu ond yn hytrach yn cael eu cofio ar ffurf penillion. Er hyn roedd y bobl ddawnus hyn yn arbenigwyr ar grefydd, daearyddiaeth, athroniaeth, seryddiaeth a gwaith metel hynod o gain a hardd. Roedd dewrder yr ymladdwyr Celtaidd yn cael ei gydnabod hyd yn oed gan eu gelynion - byddent yn gwrthod arfogaeth ac yn mynd yn noeth i frwydr. Roedd eu gwragedd hefyd yn ymladdwyr, marsiandwyr a rheolwyr galluog.

Er gwaethaf eu diwylliant datblygedig, diffyg undod oedd gwendid y Celtiaid hynafol. Bu i beiriant milwrol disgybledig y Rhufeiniaid yn raddol oresgyn Gâl, ac yna dde Prydain. Arafwyd ymestyniad y Rhufeiniaid yn y gogledd gan y Pictiaid Celtaidd a pharhaodd yr hyn a ddaeth yn Alban yn ddiweddarach i raddau helaeth heb ei choncro.